Mae Ad/Lib Cymru yn falch iawn o fod wedi sicrhau noson yng nghwmni un o ddyfarnwyr rygbi gorau’r byd, Nigel Owens.

Nigel sy’n dal y record am y nifer fwyaf o gemau prawf a ddyfarnwyd pan gymerodd yr awenau am y tro olaf yn 2020 ar ei 100fed gêm brawf. Mae’n un o gymeriadau mwyaf deniadol a doniol gêm rygbi’r undeb a bydd yn noson fyth gofiadwy i unrhyw gefnogwr chwaraeon wrth iddo adrodd straeon o’i fywyd a’i yrfa. Bydd cyfle hefyd am sesiwn holi-ac-ateb yn ystod ail hanner y noson.