Peidiwch â ngwthio fi achos 'dwi'n agos at y dibyn!
Daeth i enwogrwydd yn y 70au a'r 80au ac mae'n arloeswr ym myd cerddoriaeth hip-hop. Erbyn hyn mae Grandmaster Flash yn dathlu 50 mlynedd anhygoel o Grandmaster Flash a'r Furious 5. Ymunwch â ni am noson o hip-hop gydag arloeswr nodedig, a hefyd setiau gan westeion arbennig.

Manylion Grandmaster Flash
Ychydig iawn o enwau sydd wedi dod mor adnabyddus ledled y byd â Grandmaster Flash. Nid yn unig y mae'n un o sylfaenwyr Hip-Hop ac yn ffenomen ddiwylliannol gerddorol fyd-eang, ond mae ei ddefnydd arloesol o'r trofyrddau yn ei wneud y DJ cyntaf i chwarae'r trofyrddau fel offeryn cerdd, gan ddyrchafu statws y DJ i fod yn swydd feistrolgar ac artistig.
Aeth ei grŵp, Grandmaster Flash and the Furious Five, yn aml-Blatinwm gyda’u sengl, “The Message.” Parhaodd enwogrwydd y grŵp i dyfu gyda “Superappin,” “Freedom,” “Larry’s Dance Theme,” a “You Know What Time It Is” a llawer mwy. Cyflwynwyd cefnogwyr pync a thon newydd i Flash drwy Blondie, wnaeth ei anfarwoli yn ei chân lwyddiannus, “Rapture.”
Mae Oriel Anfarwolion y byd Roc a Rôl wedi cydnabod Flash hefyd gydag anrhydedd nad oes unrhyw un arall ym maes hip hop wedi’i dderbyn: Grandmaster Flash and the Furious Five oedd y grŵp hip hop cyntaf erioed i gael ei gyflwyno i’r Oriel Anfarwolion Roc a Rôl yn 2007.

Yn ogystal â'i gyflwyno i’r Oriel Anfarwolion Roc a Rôl, mae Flash wedi derbyn llawer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Grammy am Gyflawniad Oes; Anrhydeddau Hip Hop VH1; Gwobr Eicon gan BET i anrhydeddu ei gyfraniad at Hip Hop fel DJ; Y Wobr Cyflawniad Oes gan yr RIAA; Gwobr Vanguard Bill Gates; Gwobr Ryngwladol – Gwobr Gerddoriaeth Polar; Gwobr Cyflawniad Oes Gwobrau Global Spin; Llwybr Enwogion y Bronx a Gwobr y Llwybr Roc.
Clipiau a Fideos
"The Message" yw un o ganeuon enwocaf Grandmaster Flash and the Furious Five. Cafodd ei rhyddhau yn 1982 ac roedd yn gân hip hop amlwg gynnar i ddarparu sylwebaeth gymdeithasol.
Aeth "The Message" â cherddoriaeth rap o bartïon tŷ ei tharddiad i blatfformau cymdeithasol a ddatblygwyd yn ddiweddarach gan grwpiau fel Public Enemy a KRS-One.
Gyda
Juice Menace
Sage Todz
Niques
Lizzi£ Squad
Larynx Entertainment (DJs)
Tumi Williams (MC)