Taith Haf Cymru
Sefydlwyd Cerddorfa Siambr Cymru i lenwi’r bwlch ym mywyd creu cerddoriaeth Cymru rhwng perfformiadau unigol ac ensembles cerddoriaeth siambr bychain a pherfformiadau’r gerddorfa symffoni.
Mae’r gerddorfa wedi perfformio gyda llawer o unawdwyr gorau’r byd, wedi ymgymryd â sawl taith Ewropeaidd i gyflwyno cyngherddau, yn ogystal â pherfformio ledled y DU.
Mae wedi recordio nifer o raglenni teledu gan gynnwys cyfres Opera arobryn New York Film Festival. Roedd cryno ddisg fasnachol gyntaf y gerddorfa yn ddisg o weithiau gan William Mathias, dwy gryno ddisg o weithiau gan Alun Hoddinott, ac mae cryno ddisg arall o weithiau MichaelTippett ar y gweill.
Mae’r gerddorfa wrth ei bodd yn dychwelyd i Wrecsam.
Unawdydd: Jeremy Huw Williams
Rhaglen
Mendelssohn, Sinffonia Rhif 10 yn B Leiaf
Hughes, Tonnau
Egwyl
Debussy, Danses sacree et profane
Haydn, Symffoni Rhif 88 yn G Fwyaf