Whitney - Queen of The Night

See dates and times  

Yn syth o’r West End, mae Whitney – Queen of The Night yn ôl ar gyfer 2023 gan ddathlu cerddoriaeth a bywyd un o gantorion gorau ein hoes gyda chast gwefreiddiol a band byw cwbl drawiadol.

Mae’r cynhyrchiad rhyfeddol yma yn gyson yn cyflwyno cyngerdd rhagorol sydd wedi cael ei ddisgrifio fel “perfformiad pwerus sy’n cyflawni ar bob lefel..."

Bydd yn mynd â chynulleidfaoedd ar rolyrcostyr hudolus drwy dri degawd o ganeuon trawiadol sy’n cynnwys: I Wanna Dance With Somebody, One Moment In Time, I’m Every Woman, I Will Always Love You, My Love Is Your Love, So Emotional Baby, Run to You, Saving All My Love, How Will I Know, Million Dollar Bill, The Greatest Love Of All, a llawer mwy!

Ymunwch â ni am noson fythgofiadwy a phrofi sioe deyrnged nodedig i Whitney Houston wrth iddi fynd ar daith ledled y DU gan berfformio mwy na 100 o gyngherddau bob blwyddyn!