Neuadd William Aston yw lleoliad theatr a chyngherddau mwyaf Wrecsam gyda lle i hyd at 880 (1200 yn sefyll).
Wedi’i lleoli ar gyrion canol tref Wrecsam ar gampws Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, mae wedi croesawu rhai o’r enwau mwyaf ym myd comedi (gan gynnwys Sarah Millican, Alan Davies a Jimmy Carr), cerddoriaeth (gan gynnwys Feeder a The Levellers) yn ogystal â ballet, dawns, sgyrsiau a sioeau. Rydym hefyd yn gartref i Gerddorfa Symffoni Wrecsam sy’n gerddorfa arobryn.
Mae’r neuadd wedi’i henwi ar ôl un o drigolion enwog Wrecsam, William Aston CBE (1869-1962), gŵr busnes o fri a gwleidydd lleol a chwaraeodd ran allweddol yn natblygiad Wrecsam fel tref ac fel canolfan dysg.
Yn 2022 daeth Theatr Clwyd a Phrifysgol Wrecsam at ei gilydd mewn partneriaeth newydd i achub dyfodol Neuadd William Aston. Gyda’n gilydd byddwn yn diogelu’r lleoliad celfyddydol hanfodol hwn fel ased cymunedol, gan sicrhau bod pobl Wrecsam a Gogledd Cymru yn cael mynediad i’r adloniant gorau o Gymru, y DU ac yn rhyngwladol.
Mae’r bartneriaeth hon yn cynnig dechrau newydd – gan ddod ag arbenigedd theatrig theatr gynhyrchu fwyaf Cymru ynghyd ag arloesedd Prifysgol Wrecsam, i sicrhau bod y lleoliad yn ffynnu i’r dyfodol. Mae Theatr Clwyd bellach yn gweithredu’r lleoliad – o’r bariau a gwerthiant y tocynnau, i raglennu a llogi.
Rydym yn adeiladu ar gyfer y tymor hir, i sicrhau bod ein rhaglen yn tyfu mewn cytgord â’r dref a’r rhanbarth rydym yn eu gwasanaethu. Byddwn yn cymryd pethau’n araf – cam wrth gam yn gweithio i ailadeiladu ymddiriedaeth – byddwn yn siarad â’n cymunedau ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn rym cydweithredol er daioni sy’n dod â phobl ynghyd.
Rydym yn noddfa ddiwylliannol, yn neuadd i greu cymunedau, gan ddod â phobl at ei gilydd i chwerthin, crïo, dawnsio a chanu.
Rydym yn perthyn i Wrecsam. Ni yw Neuadd William Aston.