Mae Neuadd William Aston yn cael ei gweithredu gan Theatr Clwyd (Ymddiriedolaeth Theatr Clwyd Cyf. – Rhif Cwmni 12465903).

Tocynnau ac Archebu

o Ni ellir ad-dalu tocynnau

o Os ydych yn archebu tocynnau ar ran eraill, rydych yn derbyn y telerau ac amodau hyn ar ran pawb yn eich grŵp.

o Os bydd eich manylion yn newid ar ôl i'ch archeb ddod i ben, eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni. Gallwch reoli eich archeb drwy fewngofnodi i'ch cyfrif.

o Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio bod unrhyw docynnau a roddir i chi yn gywir.

o Ni chaniateir i chi drosglwyddo neu ailwerthu eich tocynnau at ddibenion masnachol neu am bris premiwm.

♣ Os caiff tocyn ei drosglwyddo neu ei ailwerthu gan dorri'r amod hwn, gwrthodir mynediad i'r perfformiad neu'r digwyddiad i ddeiliad y tocyn neu'r sawl sy'n hawlio'r hawl i fynychu'r digwyddiad.

o Dim ond pan gaiff ei brosesu gan Theatr Clwyd neu asiant a awdurdodwyd gan Theatr Clwyd y bydd unrhyw bryniant tocynnau yn ddilys.

o Drwy brynu tocyn, bernir eich bod yn cydsynio i chi ac unrhyw aelod o’ch grŵp gael eich ffilmio lle mae’r digwyddiad neu berfformiad yn cael ei ffilmio a bod gan Theatr Clwyd ddisgresiwn llwyr i ddefnyddio unrhyw ffilm heb unrhyw atebolrwydd i chi neu unrhyw aelod o'ch grŵp

o Rydym yn cadw’r hawl i ddarparu tocynnau amgen i sioe pe bai llwyfannu’r sioe yn mynnu hynny e.e. oherwydd newidiadau anochel i seddi.

• Cyn y digwyddiad

o Gwiriwch wefan Neuadd William Aston am yr wybodaeth ddiweddaraf am ddigwyddiadau cyn teithio.

o Er mwyn sicrhau eich bod yn mwynhau'r sioe, dewch â dim ond eitemau sy'n hanfodol i'r digwyddiad.

o Gall cerddoriaeth neu sŵn uchel niweidio'r clyw. Mae cwsmeriaid sy'n mynychu ein digwyddiadau yn gwneud hynny ar eu menter eu hunain.

o Dim ond eitemau bwyd a diod a brynwyd yn Neuadd William Aston y gellir eu bwyta a’u hyfed yn y lleoliad.

o Cychwynnwch mewn digon o bryd - ni fydd hwyrddyfodiaid yn cael mynediad tan egwyl addas yn y perfformiad.

• Mynediad

o Mae Theatr Clwyd yn cadw'r hawl i wrthod mynediad.

o Er mwyn helpu i sicrhau mwynhad pawb yn ein cynulleidfa, rydym yn argymell bod cwsmeriaid yn dod ag eitemau electronig hanfodol yn unig. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd yr hyrwyddwr yn caniatáu camerâu lens sefydlog bach, wedi'u gosod yn y modd delwedd llonydd. Nid ydym yn caniatáu'r dyfeisiau canlynol yn ein digwyddiadau: DSLR math proffesiynol neu gamerâu fideo, dyfeisiau ffrydio neu recordio sain, tabledi, GoPro neu ddyfeisiau tebyg.

o Caniateir ffonau symudol ond efallai y gofynnir i chi ddiffodd y rhain neu ymatal rhag tynnu lluniau. Gall tarfu ar aelodau eraill o'r gynulleidfa drwy barhau i ddefnyddio dyfeisiau electronig, gan gynnwys ffonau symudol, arwain at symud deiliad y tocyn o'r lleoliad.

o Yn ystod pandemig parhaus y coronafeirws, gall rheoliadau a chanllawiau ynghylch mesurau diogelu rhag y coronafeirws newid ar fyr rybudd. Bydd Theatr Clwyd yn ymdrechu i ddilyn yr holl reoliadau neu ganllawiau perthnasol i amddiffyn diogelwch a lles ein hymwelwyr a’n staff. Gall hyn olygu gosod amodau pellach ar bresenoldeb yn Theatr Clwyd neu leoliadau y mae'n eu gweithredu ar ôl i chi brynu tocyn. Mae Theatr Clwyd yn cadw’r hawl i osod unrhyw amodau sy’n ymwneud â’r coronafeirws ar bresenoldeb yn ei heiddo yn ôl ei disgresiwn llwyr. Os nad ydych yn gallu neu'n fodlon cydymffurfio ag unrhyw amod o'r fath, cysylltwch â ni cyn y digwyddiad yr ydych i fod i'w fynychu.

o Mae Theatr Clwyd (neu’r Trydydd Parti perthnasol) yn cadw’r hawl i ofyn am brawf cymhwysedd ar gyfer consesiynau yn y pwyntiau mynediad ar gyfer y digwyddiad neu berfformiad.

o Bydd gofyn i chi gyflwyno'ch Tocyn (naill ai wedi’i brintio neu ar ddyfais electronig) i gael mynediad i'r perfformiad.

o Rydym yn cadw’r hawl i wrthod mynediad, neu symud o’r lleoliad unrhyw gwsmer sy’n ymddwyn mewn ffordd sydd, ym marn y rheolwyr, yn neu a allai fod yn annymunol, yn amhriodol, yn niweidiol, yn sarhaus, yn anweddus, yn anghyfreithlon neu a allai achosi tarfu ar heddwch.

o Gall cwsmeriaid gael eu gwrthod neu eu taflu allan o’r lleoliad oherwydd eu bod (neu’n ymddangos felly) o dan oedran (lle bo hynny’n berthnasol), yn ymosodol, yn fygythiol, yn feddw, yn gwrthod cael eu chwilio, yn effeithio’n andwyol ar fwynhad pobl eraill o’r digwyddiad, yn taflu unrhyw wrthrych neu sylwedd ar y man perfformio neu fel arall yn y Lleoliad, yn sefyll ar seddi neu mewn unrhyw lwybrau cerdded, dringo ffens (neu unrhyw strwythur arall) neu ysmygu. Sylwch nad yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr.

o Bydd unrhyw eitem a nodir yn beryglus i'n staff neu aelodau'r cyhoedd yn gyffredinol yn cael ei hatafaelu. Nid yw’r rheolwyr yn caniatáu’r eitemau cyfyngedig hyn yn y lleoliad: Bomiau mwg, ffaglau, pyrodechneg, bagiau cefn, pecynnau, parseli, cadeiriau plygu, poteli neu gynwysyddion, cyrn aer, balŵns heliwm, baneri, arwyddion, fflagiau, cyllyll, drylliau, neu unrhyw arfau eraill, aerosolau, bomiau drewdod, cadwyni, pinnau laser a helmedau damwain.

♣ Nid yw’r rhestr hon yn hollgynhwysfawr a bydd yn parhau i fod yn ddarostyngedig i benderfyniadau rheolwyr Neuadd William Aston.

o Ni chynigir ad-daliadau nac iawndal o unrhyw fath i gwsmeriaid y gwrthodir mynediad iddynt neu y cânt eu symud o'r Lleoliad.

o Mae'n bosibl y byddwn yn gofyn am gael chwilio bagiau wrth eich derbyn i’r adeilad fel un o delerau ein trwydded perfformiad.

o Rhaid i blant dan 14 oed fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol.

o Unwaith y bydd y tocynnau wedi'u gwirio, ni fydd cwsmeriaid yn cael gadael a dod yn ôl i mewn.

o Os byddwch yn cael unrhyw broblemau gyda'ch seddi neu'ch mwynhad cyn neu yn ystod y Digwyddiad, mae'n rhaid hysbysu staff y lleoliad ar unwaith gan na ellir datrys problemau ar ôl y digwyddiad bob amser.

• Rhaglen

o Bydd gan Theatr Clwyd (neu’r Trydydd Parti perthnasol) yr hawl i wneud newidiadau o ran siaradwyr, perfformwyr, amseroedd rhedeg ac unrhyw faterion eraill fel y gwêl yn dda yn achos unrhyw ddigwyddiad.

o Mae Theatr Clwyd yn cadw’r hawl i osod cyfyngiadau ar:

♣ Nifer y tocynnau a archebir

♣ Argaeledd y seddi sydd ar werth yn yr awditoriwm

o Bydd gan Theatr Clwyd yr hawl i derfynu gwerthiant tocynnau ar gyfer perfformiad ar amser fel y gwêl yn dda (neu yn unol â chyfarwyddyd unrhyw Drydydd Parti perthnasol).

• Cyffredinol

o Mae'r wefan www.williamamstonwrecsam.com yn eiddo i Theatr Clwyd ac yn cael ei gweithredu ganddi.

o Bydd Theatr Clwyd yn rhoi unrhyw ad-daliadau i chi gan ddefnyddio'r un dull talu ag a ddefnyddiwyd gennych i brynu'r tocynnau.

o Mae ein gwefan at eich defnydd personol ac anfasnachol eich hun. Ni chewch addasu, copïo, dosbarthu, trosglwyddo, arddangos, perfformio, atgynhyrchu, cyhoeddi, trwyddedu, creu gweithiau deilliannol o, trosglwyddo na gwerthu unrhyw wybodaeth a gafwyd oddi ar ein gwefan.

o Gall ein gwefan gynnwys uwchddolenni i wefannau a weithredir gan bartïon heblaw Theatr Clwyd. Mae gweithredu gwefannau o'r fath y tu hwnt i reolaeth Theatr Clwyd a byddwch yn symud ymlaen ar eich menter eich hun. Nid yw Theatr Clwyd yn cymeradwyo nac yn noddi ac nid yw’n atebol am y cynnyrch, gwasanaethau na chynnwys rydych yn eu gweld drwy unrhyw wefan gysylltiedig.

o Bydd Theatr Clwyd yn casglu, defnyddio, storio a datgelu eich manylion personol yn unol â’n polisi preifatrwydd sydd ar gael drwy glicio yma.

o Ni chaniateir ysmygu yn unman yn Neuadd William Aston nac ar Gampws Prifysgol Glyndŵr

o Y cwsmer sy’n gyfrifol am unrhyw eiddo sydd ganddo gydag ef ac ni fydd Theatr Clwyd, mewn unrhyw fodd, yn gyfrifol am unrhyw ladrad, colled neu ddifrod mewn perthynas ag eiddo o’r fath.

o Ni fydd Theatr Clwyd na Hyrwyddwr y Digwyddiad yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod, marwolaeth neu anaf sut bynnag y’i hachosir (ac eithrio marwolaeth neu anaf personol o ganlyniad i esgeulustod Theatr Clwyd neu Hyrwyddwr y Digwyddiad) oni bai fod Theatr Clwyd neu Hyrwyddwr y Digwyddiad wedi torri amodau ei rwymedigaethau cyfreithiol a cholled neu ddifrod o’r fath yn ganlyniad uniongyrchol a rhesymol i hynny.