Sioeau Proffesiynol

Os ydych chi’n teithio gyda chynhyrchiad proffesiynol, cysylltwch â ni drwy e-bostio programme@theatrclwyd.com – fel canllaw cyffredinol nid ydym yn rhaglennu sioeau gweledyddion, seicigyddion na hypnotyddion.

Sioeau Amatur a Chymunedol

Rydym yn croesawu unrhyw gwmnïau amatur neu grwpiau cymunedol i gysylltu am berfformio yn Neuadd William Aston. Wrth ymholi rhowch ychydig o wybodaeth i ni am eich grŵp, y sioe yr hoffech ei chyflwyno, a'r gynulleidfa yr hoffech ei denu i'r lleoliad. Cysylltwch drwy e-bostio programme@theatrclwyd.com

Cynadleddau

Mae Neuadd William Aston a Phrifysgol Glyndŵr yn lleoliadau o ansawdd uchel ar gyfer cynnal cynadleddau gyda hyd at 850 o bobl. Mae’n hawdd cyrraedd Wrecsam o bob rhan o’r DU gydag amrywiaeth o ddarparwyr llety gerllaw. Cysylltwch drwy e-bostio programme@theatrclwyd.com

Ffeiriau

Gellir symud y seddi yn Neuadd William Aston i greu lleoliad cynllun agored mawr ar gyfer ffeiriau o bob math. Cysylltwch drwy e-bostio programme@theatrclwyd.com

Llogi Safle Ymarfer

Mae ein llwyfan mawr a'n llawr cynllun agored yn creu gofod perffaith ar gyfer ymarfer cyn cynhyrchu. Cysylltwch drwy e-bostio programme@theatrclwyd.com