Prifysgol Glyndŵr Wrecsam

Mae Neuadd William Aston wedi’i lleoli ar gampws, ac yn eiddo i Brifysgol Wrecsam (rydym yn cael ein gweithredu gan Theatr Clwyd).

Cenhadaeth Prifysgol Wrecsam yw ysbrydoli a galluogi drwy addysg uwch, ymchwil ac ymgysylltu, gan weithio gyda’n myfyrwyr, staff a phartneriaid.

Maent yn ymfalchïo yn eu hymrwymiad i ehangu mynediad a chynhwysiant cymdeithasol, gan sicrhau bod pawb sydd â'r potensial i gyflawni mewn addysg uwch yn cael y cyfle i wneud hynny. Dyma’r brifysgol orau yng Nghymru a Lloegr o ran cynhwysiant cymdeithasol ac mae’n gydradd gyntaf yn y DU yn The Times a’r Sunday Times Good University Guide 2022. Mae hynny’n golygu eu bod yn credu mewn helpu’r rhai sy’n dymuno astudio mewn prifysgol i wneud hynny – beth bynnag yw’r rhwystrau. Mae 60.6% o'r myfyrwyr y rhai cyntaf yn eu teulu i fynd i brifysgol.

Cyflawnwyd statws prifysgol ganddi yn 2008 ond maent wedi bod yn darparu addysg ar brif gampws Wrecsam ers 1887. Ar hyn o bryd mae ganddynt fwy na 7,500 o fyfyrwyr wedi cofrestru, nifer sy'n parhau i dyfu gyda'n campws, ein buddsoddiadau, a’n staff academaidd.