Adam Kay - This is Going To Hurt

See dates and times  

5 Stars

Mail on Sunday

Ar Werth: Dydd Gwener 25 Medi, 10yb

"Hilarious and heartbreaking" - Charlie Brooker


Mae'r comedïwr sydd wedi ennill BAFTA, Adam Kay, yn dathlu degawd o'i lwyddiant byd-eang, This is Going to Hurt, gyda thaith fyw newydd sbon sy'n cynnwys y cofnodion hynod ddoniol (a thorcalonnus) o'i ddyddiaduron fel meddyg iau. Byddwch yn barod am gymysgedd o’r hen ffefrynnau ochr yn ochr â rhai straeon sydd heb eu hadrodd erioed o'r blaen, ac wedyn sesiwn holi ac ateb wrth i Adam adlewyrchu ar sut mae'r GIG wedi newid yn ystod y deng mlynedd ers i'w ddyddiaduron roi cipolwg i ni arno am y tro cyntaf. Mae wir yn mynd i frifo y tro yma.

Yn cael ei wylio'n fyw nawr gan 350,000 o bobl ledled y byd.

"Intersperses horror stories from the NHS frontline with a catalogue of sublimely silly songs, and some blissfully brilliant wordplay" ★★★★★ - Mail on Sunday

“Electrifying” - Guardian