Alfie Moore – A Face For Radio

See dates and times  

0 Stars

…offbeat, revealing and very funny
You Magazine

0 Stars

…thoroughly engaging, endlessly funny. His charisma shines through as bright and colourful as a twirling blue light
Mature Times

Rywle mewn bydysawd cyfochrog cafodd sgiliau perfformio doniol, naturiol Alfie eu cydnabod gan ei rieni a oedd yn dotio ato ac a aeth ati i’w annog a datblygu ei ddawn wrth iddi flodeuo.

Ar ôl sawl blwyddyn fel hogyn drwg mewn ysgol ddrama, lansiwyd wyneb angylaidd Alfie ar y llwyfan a’r sgrin ac mae’r gweddill yn hanes. Yn y cyfamser, yn y bydysawd hwn dywedwyd wrth Alfie Moore am roi'r gorau i chwarae’n wirion yn y dosbarth cyn cael ei ‘annog’ i fyd heriol a diflas prentisiaeth yng ngwaith dur Sheffield. Pan darodd y dirwasgiad, newidiodd y byd dur am yr un ‘copar’ drwy ymuno â Heddlu Glannau Humber.

Yn ei 40au bu gwrthdaro rhwng y ddau fydysawd pan aeth Alfie ati i geisio sicrhau llwyddiant showbiz – ond, yn anffodus, roedd 30 mlynedd o waith shifft a chael ei ddyrnu yn ei wyneb gryn dipyn, wedi ei adael gyda ‘wyneb radio’.

Wyneb gyda sgwatwyr wedi dod i fyw ynddo fo, heb fawr o ystyriaeth i gynnal a chadw ac atgyweirio. Dyma stori wir cynllun mawr Alfie, y ‘Fair Cop’, i bontio o donfeddi radio’r BBC i fod yn seren deledu. Oedd hynny’n bosib? Neu oedd y Brenin Amser wedi penderfynu bod ei amser wedi mynd heibio?