Mae Anthony Head wedi cael gyrfa lwyddiannus iawn ym myd ffilm, teledu a theatr. Mae’n adnabyddus yn rhyngwladol am ei rolau fel Rupert Giles yn Buffy the Vampire Slayer ac Uther Pendragon yn Merlin, ac am ei rôl fel Geoffrey Howe yn y ffilm sydd wedi ennill Oscar, The Iron Lady. Mae hefyd wedi ymddangos mewn sawl cyfres deledu lwyddiannus arall gan gynnwys Little Britain, Dr. Who, Manchild a Motherland. Fe’i gwelwyd yn fwyaf diweddar yn Dancing on the Edge gan Stephen Poliakoff, Percy Jackson: Sea of Monsters a gyfarwyddwyd gan Thor Freudenthal; You, Me and Them ar UK Gold a Dominion ar gyfer Syfy.
Yn ymuno ag Anthony fydd ei ferched yr un mor dalentog, Daisy Head(Dungeons & Dragons: Honor Among Thieves, Underworld) ac Emily Head (Emmerdale, The Inbetweeners) am noson sy’n addo na ellir ei cholli!
Gyda dros 80 mlynedd o brofiad actio wedi’i gyfuno, disgwyliwch noson o straeon newydd wrth i’r triawd dawnus ymuno â’i gilydd ar lwyfan am y tro cyntaf erioed yn Wales Comic Con.
Llofnodion 6yp
Drysau’n agor 7yh
Sgwrs 8yh