50 mlynedd ers i albwm eiconig ABBA, sef ‘Arrival’, oleuo’r siartiau am y tro cyntaf, mae’r sioe arobryn sy’n rhannu’r un enw, Arrival – The Hits of ABBA, yn ôl gyda chynhyrchiad newydd sbon!
Eleni, mae’r sioe’n fwy cyfranogol nag erioed. Gyda mwy fyth o ganeuon o’r albwm nodedig, tafluniad fideo rhyngweithiol a geiriau ar y sgrin, fe allwch chi gydganu nerth eich pen a dod yn rhan o’r perfformiad.
Gyda lleisiau syfrdanol, gallu cerddorol eithriadol, gwisgoedd disglair a delweddau cyfareddol, bydd pob cân yn gwneud i chi ddawnsio a chydganu gyda llawenydd a hiraeth!








