Ben Portsmouth - This is Elvis

See dates and times  

Nid dim ond artist teyrnged ydi Ben Portsmouth - mae'n cael ei ystyried yn eang fel y perfformiwr byw agosaf at yr enwog Elvis Presley. Gyda chyfuniad prin o feistrolaeth leisiol, dawn gerddorol a phresenoldeb llwyfan rhyfeddol, mae Ben yn dod ag ysbryd Brenin Roc a Rรดl yn fyw fel neb arall.

Mae sioe deithiol Ben, This is Elvis, yn cynnig siwrnai gwbl syfrdanol drwy gyfnodau mwyaf eiconig Elvis, o'i wreiddiau roc a rรดl cynnar i flynyddoedd disglair Las Vegas. Gyda llais sy'n rhychwantu pedwar wythfed a phresenoldeb cwbl nodedig, mae Ben yn cyflwyno profiad bythgofiadwy. Mae ei sgiliau gitรขr yn ychwanegu cyffyrddiad didwyll aโ€™i allu i sianelu carisma'r Brenin yn hudo cynulleidfaoedd i galon y perfformiad.

Nid dim ond artist teyrnged ydi o; dyma'r Brenin wedi'i aileni!