Darllediad Gêm Cymru v Lloegr - gyda Bwncath!

See dates and times  

Darllediad Gêm Cymru v Lloegr a Bwncath!

Ymunwch a ni am sgriniad fyw (yn Gymraeg) o gêm Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Cymru v Lloegr, gyda cherddoriaeth gan un o grwpiau amlycaf Cymru, Bwncath i ddilyn.

Band o ardal Caernarfon a Phwllheli ydi Bwncath. Ffurfiwyd nol yn 2014, yn fuan ar ôl i Elidyr Glyn fod yn canu ei ganeuon gwreiddiol ar nosweithiau open mics Y Glôb, Bangor.

Cynhyrchwyd y traciau gan Robin Llwyd - a fo ac Elidyr wnaeth berfformio a recordio bron â bod popeth arnynt.

Bellach, mae catalog Bwncath wedi cyrraedd dros 7 miliwn o ffrydiau ar Spotify yn unig. Mae’r band yn parhau i berfformio’n gyson ar hyd y wlad, yn ogystal â bod yn brysur yn Sain yn gweithio ar ganeuon newydd, gan edrych ymlaen at gael rhyddhau’r drydydd albwm yn 2025.