Ymunwch â'n Ceidwaid dewr ni ar gyfer Antur Deinosoriaid arall llawn cyffro yn y sioe newydd a chyffrous yma.
Pan ddaw llosgfynydd hynafol yr ynys yn weithredol, mae’n creu perygl i bawb – gan gynnwys y Deinosoriaid!
Mae’n ras yn erbyn amser i helpu ein Ceidwaid a’n hoff Ddeinosoriaid ni ar y daith gynhanesyddol gyffrous yma, i achub Ynys Llosgfynydd rhag trychineb sydd ar fin digwydd.
Dewch i gwrdd â’r Triceratops anhygoel, y Spinosawrws digywilydd, ein deinosoriaid bach ciwt ni a’r T-Rex enfawr wrth i ni ddilyn eu holion traed anferth a’u siwrnai ar draws yr ynys. Byddwn yn dod ar draws rhywogaethau gwyllt newydd o Ddeinosoriaid ac yn goresgyn heriau cyffrous rownd bob tro!
Mae’r sioe ryfeddol, gyfranogol a rhyngweithiol yma’n sicr o fod yn antur fythgofiadwy i’r teulu cyfan.