Byddwch yn barod am Noson yn y Sioeau Cerdd mewn ffordd gwbl newydd!
Holl sêr a gwledd y West End a hefyd byd ffyrnig a gwych Drag! Noson o berfformiadau bendigedig a dydi’r difas yma ddim yn ddiflas o gwbl! Os na allwch chi ymdopi â'r 'T' wel cadwch draw achos mae’r doliau del yn mynd i fod ar dân!
LLEISIAU BYW 100% – Dim brwydrau cydamseru gwefusau o gwbl ar y llwyfan yma. Dim ond talentau lleisiol anhygoel, yn llawn beiddgarwch.
Os ydych chi'n byw i Les Mis, yn mwynhau Mamma Mia, neu'n wallgof am Kinky Boots, mae rhywbeth i bawb yn y tro eithaf yma ar noson glasurol yn y theatr.
Sioe slic llawn perfformiadau ysgubol a choreograffi camp epig - bydd ein Breninesau ni’n eich gadael chi'n dyheu am fwy!
Yn cyflwyno noson fythgofiadwy i chi.



