Mae ELO Again yn ôl gyda'u Taith syfrdanol Back to the Blue yn dathlu cerddoriaeth wirioneddol gyfareddol Jeff Lynne a'r Electric Light Orchestra.
Mae ELO Again yn rhoi blas dramatig i chi ar sut brofiad fyddai cyngerdd ELO chwedlonol yn ôl yn eu hanterth - mae'r profiad cyfan yn cael ei ail-greu'n broffesiynol gydag atgynhyrchu sain, sioe oleuo ac effeithiau gweledol anhygoel. Maen nhw'n perfformio'r holl ganeuon mawr- Mr Blue Sky, Livin' Thing, Sweet Talkin' Woman, Shine a Little Love a llawer mwy.
Dewch draw i ail-fyw oes Glam Roc wrth i ELO Again dalu teyrnged i ganeuon hyfryd Jeff Lynne. Bydd cyfle i chi ymgolli yn arddull roc symffonig unigryw ELO a chlywed rhai o ganeuon roc a phop clasurol mwyaf bythgofiadwy ein cenhedlaeth ni.