Elsberdance

See dates and times  

Ar ôl sioeau hynod lwyddiannus y llynedd yn Neuadd Williams Aston, rydyn ni’n falch o fod yn ôl eto gyda ‘Sioeau Haf 2025’.

Pedair sioe newydd sbon yn cael eu cyflwyno i chi gan yr Elsberdancers anhygoel. Byddwch yn barod i gael eich cyfareddu gan wledd o ddawnsio bythgofiadwy. Mae ein ensemble ni o ddawnswyr medrus yn barod i’ch cludo chi i fyd o rythm, curiadau a symudiadau gwefreiddiol a fydd yn eich synnu. O fasnachol i jazz, cyfoes i ballet, o ddawnsio tap i Wyddelig, mae ein dawnswyr ni’n gallu cynnig y cyfan, gan sicrhau profiad pleserus i bawb.

Byddwch yn barod i fod yn dyst i ddawnsfeydd perffaith, coreograffi syfrdanol ac wrth gwrs, yr elfen ciwt gan ein dawnswyr iau ni. Peidiwch â cholli’r cyfle i ymgolli yng nghyfaredd byd y ddawns.