Adam Garcia's Emerald Storm

See dates and times  

Pe bai Riverdance a Stomp yn cyfuno - Emerald Storm fyddai’r canlyniad!

Yn syth o'r West End, Emerald Storm yw'r ffenomenon ddawns newydd drydanol gan Adam Garcia, y seren llwyfan a sgrin nodedig y tu ôl i rai o ganeuon mwyaf llwyddiannus y theatr. Gan gyfuno tân dawnsio Gwyddelig gyda dycnwch tap trefol, mae'r cynhyrchiad hynod egnïol yma’n ffrwydro’n llawn rhythm ac angerdd ac yn berfformiad cyfareddol.

Gan herio traddodiad ac ailddychmygu'r genre, mae Emerald Storm yn cyflwyno gwaith traed taranllyd, coreograffi sy'n gwneud i’r galon gyflymu a gwledd weledol o symudiad a sain sy'n eich denu chi i mewn i'r storm.

Gyda dawnswyr o safon byd, cerddorion byw a choreograffi syfrdanol wedi'i gyd-greu gan Garcia ei hun, dyma ddawnsio mewn ffordd gwbl newydd ac unigryw.

O'r curiad cyntaf i'r olaf, mae Emerald Storm

yn ddathliad cyfranogol, bythgofiadwy o rhythm, egni a thalent pur - profiad dawns a fydd yn codi cynulleidfaoedd ar eu traed.