Fairport Convention

Past Production

See dates and times  

Mae Fairport Convention wedi bod yn diddanu pobl sy’n hoff o gerddoriaeth ers dros hanner canrif, ar ôl ffurfio yn 1967. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae’r band a lansiodd roc gwerin Prydeinig wedi gweld llawer o newidiadau, ond mae un peth wedi aros yr un fath – angerdd Fairport dros berfformio.

Bydd Taith y Gaeaf eleni yn cyflwyno cymysgedd o ffefrynnau Fairport sydd wedi hen ennill eu plwyf ac ambell syrpreis o albymau hen a newydd.

Mae'r band yn cynnwys aelod gwreiddiol, Simon Nicol, ar y gitâr a llais, Dave Pegg ar y gitâr fas, Ric Sanders ar y ffidil, Chris Leslie ar y ffidil, y mandolin a llais. Bydd y cyn-aelod, Dave Mattacks ar y Drymiau, yn ymuno â Fairport ar y llwyfan.

Gyda chefnogaeth arbennig gan PLUMHALL (Michelle Plum a Nick B Hall).