Mae Go Your Own Way yn sioe newydd sbon gyfareddol sy’n cynnwys cerddoriaeth yr anhygoel Fleetwood Mac, a enillodd sawl Gwobr Grammy.
Mae eu gwaddol roc a rôl yn cael ei berfformio’n hyfryd gan ensemble hynod dalentog a chymeradwy o gerddorion a fydd yn mynd â chynulleidfaoedd ar siwrnai bwerus drwy eu casgliad anhygoel o ganeuon.
Gyda chaneuon eiconig yn cynnwys Dreams, Don’t Stop, Everywhere, Rhiannon, Gold Dust Woman, Little Lies, Big Love a llawer mwy.
Gan dalu teyrnged i griw “Rumours” sef Stevie, Mick, John, Christine a Lindsey, sef y criw mwyaf llwyddiannus yn fasnachol hyd yma, mae’r sioe yma’n ail-greu egni byw ac angerdd Fleetwood Mac yn berffaith.