Byddwch yn barod am chwip o ddathliad o eiconau cerddorol benywaidd!
Mae Girl Power Live yn dod â chaneuon eiconig oesol y merched mwyaf nodedig yn y byd cerddoriaeth at ei gilydd ac fe fyddan nhw’n cael eu perfformio gan fand byw trydanol sy’n cynnwys 8 aelod. O anthemau pwerus Whitney a Beyoncé i berffeithrwydd pop Madonna, Kylie a Gaga, mae'r sioe yma’n cyflwyno egni di-baid a chaneuon bythgofiadwy.
Os ydych chi'n hoff o ganu clasuron Cher a Tina Turner neu ddawnsio i guriadau Little Mix ac Ariana Grande, mae Girl Power Live yn noson o gerddoriaeth sydd wedi siapio cenedlaethau. Cyfle i brofi teyrnged syfrdanol i bŵer merched ar ei orau!
Agor oriel o luniau
