Bydd Gruff Rhys a'i fand yn ymddangos am y tro cyntaf ers 2002 yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Dyma gyfle gwych i glywed yn fyw y caneuon Cymraeg newydd y bydd yn eu rhyddhau yr haf hwn.
Ond mae'r noson hon yn cynnwys llawer mwy na Gruff Rhys yn unig. Bydd cyfle i glywed hefyd Griff Lynch gyda'i fand newydd, wedi blynyddoedd o lwyddiant gyda'r band psycho-pop "Yr Ods" a ddaeth hefyd i amlygrwydd tu allan i Gymru trwy Glastonbury a Radio 1.
Bydd y band cyffrous newydd "Wrkhouse" hefyd yn cychwyn y noson. Mae eu EP "Out of the Blue" wedi derbyn canmoliaeth fawr, ac mae'r band wedi creu set Gymraeg ar gyfer y Steddfod.
Ar ben hyn oll, bydd perfformiad gan y band cyffrous "Ynys". Gwaith y band hwn yw uchafbwynt gyrfa Dylan Hughes (Racehorses a Radio Luxembourg gynt), ac mae artistiaid amlwg eraill - fel Heledd Watkins a Tara Bethan - wedi ymuno efo fo yn y prosiect a drefnir gan Recordiau Libertino. Bydd Gruff Rhys ymlaen am 11.15pm ond cyn hynny bydd noson fawr a llawn o gerddoriaeth o safon rhyngwladol yma yn Wrecsam.
Bydd y tocynnau yn mynd ar werth bore Mawrth 13eg o Fai am 10yb