Jason Donovan – Doin’ Fine 25

See dates and times  

Mae taith Doin’ Fine 25 Jason Donovan yn ddathliad nodedig o’i yrfa ryfeddol ym myd cerddoriaeth, theatr, ffilm a theledu. Bydd y daith gyffrous yma’n arwain ei gefnogwyr ar siwrnai drwy 35 mlynedd o ganeuon poblogaidd ar y llwyfan a’r sgrin drwy arddull perfformio byw egnïol ac unigryw Jason.

Mae Jason wedi rhoi pleser i gynulleidfaoedd byd-eang gyda’i hyblygrwydd fel actor, canwr a diddanwr cyffredinol. Mae wedi creu catalog cyfoethog o ganeuon poblogaidd ac mae Doin' Fine 25 yn mynd i fod yn benllanw syfrdanol i'w gyflawniadau rhagorol hyd yma.

Mae’r sioe yma’n argoeli i fod yn wledd gerddorol o diwns bythgofiadwy, yn cynnwys detholiad deinamig o hoff ganeuon Jason o sioeau llwyfan fel Joseph a Priscilla, ei waith teledu fel Neighbours a Strictly ac, wrth gwrs, ei ganeuon pop mwyaf fel Especially For You a Too Many Broken Hearts.

*VIP: Cyfarfod a Chyfarch cyn y sioe, seddi blaen ac un darn o nwyddau’r sioe