Noson arbennig o hel atgofion am bêl droed, hwyl ac adloniant yng nghwmni un o gewri Sky Sports, Jeff Stelling, angor Sky Sports Soccer Saturday am fwy na 30 o flynyddoedd.
Yn ystod y noson bydd Jeff yn rhannu straeon am ei yrfa ryfeddol a'i gwelodd yn dod i enwogrwydd fel wyneb adnabyddus Sky Sports Soccer Saturday a hanesion o’r tu ôl i'r llenni. Bydd Bianca Westwood, ei gydweithiwr yn Sky, yn ymuno ag ef ar y llwyfan wrth iddi groesawu a holi’r angor anhygoel! Ymunodd Jeff â Soccer Saturday yn 1994 ac mae wedi cyflwyno pob pennod bron ac wedi gweithio gyda rhai o sêr chwedlonol y byd pêl droed, fel George Best, David Beckham, Roy Keane, a llawer mwy!
Mae cyfle hefyd i chi ofyn eich cwestiynau i Jeff mewn sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa ac i brynu rhywfaint o femorabilia chwaraeon gwych.
*Bydd deiliaid tocynnau VIP yn cael y seddau gorau, llinyn gwddf VIP, Cyfarfod a Chyfarch cyn y sioe a chyfle i dynnu lluniau hefyd.