Byddwch yn barod am sioe Nadoligaidd drawiadol fydd yn codi eich ysbryd ac yn tincian eich clychau!
Mae Jingle Bell Rock yn gynhyrchiad Nadoligaidd newydd trydanol sydd wedi’i greu gan Sisco Entertainment (crëwyr The Barricade Boys, Gravity a Come What May). Mae'n Nadoligaidd, mae'n wych, ac mae'n llawn cerddoriaeth, dawns a disgleirdeb digamsyniol y tymor.
Gyda chast o berfformwyr anhygoel o lwyfannau disglair y West End yn Llundain. Harmonïau llyfn, lleisiau syfrdanol, a choreograffi sy’n ddigon miniog i dorri drwy dinsel - mae'r sioe yma’n cynnig sglein, grŵf a digon o hwyl.
Felly, estynnwch am eich hetiau Siôn Corn a setlo yn eich sedd… oherwydd mae Jingle Bell Rock yn dod i'r dref!
Gostyngiadau i Grwpiau
Grwpiau o 6 neu fwy - £21.50 y tocyn
Grwpiau o 8 neu fwy - £20 y tocyn
Grwpiau o 10 neu fwy - £16.50 y tocyn
Grwpiau o 20 neu fwy - £14 y tocyn
Bydd y gostyngiad yn cael ei weithredu’n awtomatig wrth i chi dalu. Mae’r prisiau uchod i gyd yn cynnwys ffioedd archebu.







