Jive Talkin'

See dates and times  

Yn enwog fel y sioe deyrnged wreiddiol a gorau un i’r Bee Gees, a’r UNIG sioe deyrnged i’r Bee Gees sydd wedi perfformio gyda’r Bee Gees gwreiddiol! Yn 1997, fe berfformiodd Gary a Darren Simmons yn FYW ar Heart FM gyda'r grŵp a chael canmoliaeth fawr gan Maurice a Barry Gibb.

Fel gyda'r Bee Gees gwreiddiol, mae Jive Talkin' yn sioe deuluol iawn, gyda'r brodyr Gary a Darren yn cymryd rôl Barry a Maurice Gibb, a mab Darren, Jack, yn ymuno â'r grŵp yn 2014 ac yn cymryd rôl Robin Gibb. Maen nhw’n cael eu cefnogi’n gerddorol gan fand pedwar darn gyda Phrif Gitâr, Ffidil, Soddgrwth a Drymiau, i sicrhau bod pob nodyn ym mhob cân yn berffaith!

Am brofiad gwirioneddol anhygoel a chyfle i glywed holl ganeuon gwych y Bee Gees; Tragedy, Night Fever, Massachusetts, Stayin' Alive, Jive Talkin' a mwy mewn ffrwydrad dwy awr o gerddoriaeth a harmoni lleisiol!