Mae Côr Meibion Johns’s Boys yn cyflwyno gwedd fodern, arloesol ar Gôr Meibion traddodiadol o Gymru. Dyma gyfle i fwynhau caneuon trawiadol o fyd y siartiau, opera, sioeau cerdd, clasuron cyfarwydd ac emynau traddodiadol.
Yn 2019, y côr oedd y Côr Meibion cyntaf, a’r unig un, o Brydain i ennill gwobr fawreddog ‘Côr y Byd’ Pavarotti yng Ngŵyl Gerdd Ryngwladol Llangollen. Mae wedi ymddangos ar y teledu sawl gwaith, gan gynnwys ar The Last Night of the Proms, Britain's Got Talent, The Royal Variety Show a Stay Close ar Netflix.
Mae galw mawr am y côr ar y llwyfan cyngherddau ac mae wedi perfformio mewn theatrau mawreddog ledled Prydain Fawr gan gynnwys yr Apollo yn Hammersmith, y Royal Albert Hall, y Birmingham Symphony Hall, a Theatr y Mileniwm yng Nghaerdydd. Mae’r côr yn canu’n gyson yn Stadiwm Principality ar gyfer gemau rhyngwladol cartref Undeb Rygbi Cymru.
Mae’r côr wedi casglu miliynau o ddilynwyr newydd ers ymddangos ar sioeau byw Britain's Got Talent ac mae wedi cael ei ddisgrifio fel “a brilliant choir” gan Simon Cowell. Aeth ei sengl gyntaf, sef Biblical, yn syth i rif un yn siartiau Clasurol iTunes.