Mae Jon Culshaw yn mynd ar daith gyda sioe newydd sbon ar gyfer 2027!
Ymunwch â seren Dead Ringers ar BBC Radio 4 wrth iddo fynd â chi ar daith ar wib drwy amrywiaeth o leisiau enwog mewn noson o stand-yp, straeon, sgetsys a chân!
Mae Jon yn un o ddynwaredwyr, digrifwyr ac actorion mwyaf llwyddiannus Prydain gyda’i waith teledu’n amrywio o gyfresi comedi clasurol fel Spitting Image, The Impressions Show, a Newzoids i ddrama ddogfen arobryn Channel 4, Partygate. Ar y llwyfan, yn ogystal â'i daith gomedi unigol hynod lwyddiannus, Imposter Syndrome, yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Jon hefyd wedi chwarae i dai llawn yn y ddrama un dyn Les Dawson: Flying High, ar Daith Pen-blwydd Dead Ringers yn 25 oed, ac ym mhantomeim eiconig y London Palladium.
Archebwch nawr i weld un o berfformwyr enwocaf a mwyaf amrywiol y wlad yn fyw!




