Byddwch yn barod am y sioe ddwbl K-pop eithaf wrth i ddau gynhyrchiad byw nodedig ddod at ei gilydd ar gyfer un sioe fythgofiadwy!
Mae'r perfformiad yn dechrau gyda KPOP Fantasy, dathliad theatrig egnïol o'r ffenomen fyd-eang, sef K-pop. Gan gyfuno lleisiau byw eithriadol gyda choreograffi trydanol, delweddau beiddgar a pherfformiadau pwerus wedi'u hysbrydoli gan yr eiliadau K-pop mwyaf o fyd cerddoriaeth, teledu a ffilm, mae KPOP Fantasy yn cyflwyno holl ysblander, manwl gywirdeb ac angerdd K-pop yn fyw ar y llwyfan yn gwbl gyffrous.
Wedyn byddwch yn barod am Katzeye – The Tribute Experience, cynhyrchiad trydanol mewn steil cyngerdd sy'n dathlu un o’r grwpiau pop sydd wedi dod i amlygrwydd gyflymaf yn y byd. Yn cynnwys y caneuon eiconig, coreograffi ffyrnig, lleisiau pwerus ac egni eithriadol, mae'r deyrnged gyfareddol yma’n ail-greu'r cyffro a'r awyrgylch sydd wedi gwneud KATSEYE yn ffenomen ryngwladol.
Yn llawn delweddau syfrdanol, rhyngweithio â'r gynulleidfa ac egni di-baid o'r dechrau i'r diwedd, mae'r sioe fywiog yma sy’n gwneud i bawb deimlo'n dda’n berffaith ar gyfer cefnogwyr K-pop ymroddedig, selogion KATSEYE a newydd-ddyfodiaid o bob oed.
Dau berfformiad anhygoel. Un dathliad cyfareddol o K-pop.
Mae'r cynyrchiadau yma’n deyrngedau annibynnol heb fod yn gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â'r artistiaid gwreiddiol, eu stadau na'u rheolwyr, nac wedi'u cymeradwyo ganddynt.


