Lipstick On Your Collar

See dates and times  

Camwch yn ôl mewn amser i oes aur cerddoriaeth lle'r oedd y jiwcbocs yn rhuo a thraed ddim yn cyffwrdd y llawr. Estynnwch am eich esgidiau dawnsio, bachwch ysgytlaeth ac ymlacio – mae noson o ganeuon cefn wrth gefn o'r 1950au a'r 60au yn aros amdanoch chi!

O enedigaeth Roc a Rôl hyd at synau Beat Group y Goresgyniad Prydeinig a thu hwnt, mae’r sioe yn llawn dop o fwy na deugain o ganeuon eiconig gan sêr fel Connie Francis, Brenda Lee, Buddy Holly, Chuck Berry, The Beatles, The Ronettes, Cliff Richard, Cilla Black a llawer mwy.

Yn cael eu perfformio gan fand byw llawn, sy’n cynnwys rhai o gerddorion gorau’r wlad, mae’r sioe anhygoel yma’n cynnwys lleisiau rhagorol, harmonïau clos ac ymdeimlad heintus o hwyl.

Mae dawnsio yn y sioe yn gwbl orfodol felly cofiwch ddod â'ch esgidiau dawnsio a byddwch yn barod am hwyl!