Ymunwch â Peter Bleksley, aelod a sefydlodd uned gudd Scotland Yard a chyn seren Hunted ar Channel 4, wrth iddo godi cwr y llen ar agweddau mwyaf peryglus a chudd ymchwiliadau i lofruddiaethau. O realiti llym gangiau troseddol i'w brofiad brawychus ei hun o ddod yn darged i gynllwyn llofruddiaeth, bydd Peter yn rhannu straeon sydd heb eu hadrodd o’r blaen am yr achosion mwyaf peryglus.
Am dros ddegawd, gweithiodd Peter yn gudd, gan esgus bod yn bopeth o werthwr cyffuriau i lofrudd contract. Rhoddodd ei fywyd dwbl fynediad iddo i gorneli tywyllaf dynoliaeth, gan ddatgelu cyfrinachau a fyddai'n achub bywydau - ond ar draul ei ddiogelwch ei hun. Cafodd ei orfodi i guddio a chael ei warchod wrth i gynllwyn i’w lofruddio gael ei ddatgelu gan yr FBI a daeth ei yrfa fel ditectif i ben yn sydyn iawn, gan ei adael gydag atgofion brawychus am lofruddwyr a'r system gyfiawnder sy'n eu herlid.
Byddwch yn barod am noson fythgofiadwy’n adrodd straeon am droseddu wrth i Peter Bleksley ddatgelu'r realiti erchyll tu ôl i ddatrys llofruddiaethau ac ymladd yn erbyn y byd troseddol tanddaearol. Dyma erlid troseddwyr fel na welsoch chi mohono erioed o'r blaen.


