Man in the Mirror

See dates and times  

Ymunwch â ni am ‘Thriller’ o noson, wrth i ni ddathlu cerddoriaeth chwedlonol y Brenin Pop.

Gyda CJ yn serennu, un o Artistiaid Teyrnged gorau’r byd i Michael Jackson, a chefnogaeth gan gast talentog o berfformwyr a cherddorion sy’n dal hanfod steil unigryw a charisma Michael Jackson i’r dim yn y cynhyrchiad cyfareddol yma fydd yn eich cadw chi ar flaen eich sedd.

Yn cynnwys ei holl ganeuon mawr rydych chi’n eu hadnabod ac yn eu hoffi, gan gynnwys Thriller, Billie Jean, Beat It, Smooth Criminal a Man in the Mirror. Gyda choreograffi disglair, effeithiau gweledol syfrdanol, sioe oleuadau a gwisgoedd triw i’r gwreiddiol. Dyma’r sioe sy’n talu teyrnged i waddol cerddorol Jackson.

Felly, os ydych chi’n gefnogwr oes neu’n profi hud Michael Jackson am y tro cyntaf, byddwch yn barod wrth i ni fynd â chi yn ôl mewn amser, am noson gwbl unigryw.