Man with dark curly hair looking directly into the camera.

Nish Kumar

Angry Humour From A Really Nice Guy

See dates and times  

Mae'r byd mewn anhrefn. Mae anghydraddoldeb yn ehangu, mae awtocratiaeth yn cynyddu ac mae pleidiau gwleidyddol yn dymchwel. Yn yr amseroedd rhanedig yma, yr hyn sydd ei angen yn ddirfawr ar y wlad hon ydi โ€˜Angry Humour From a Really Nice Guyโ€™ (mewn sawl ffordd, dyma'r peth olaf sydd ei angen ar y wlad hon mewn gwirionedd, ond dyma beth maeโ€™n ei gael felly dyna ni).

Mae comedรฏwr gwleidyddol blaenllaw y DU, Nish Kumar โ€“ cydgyflwynydd y podlediad eithriadol boblogaidd Pod Save the UK, cyn-gyflwynydd y rhaglen The Mash Report ar y BBC gafodd ei thorri, ac un o gollwyr mwyaf Taskmaster โ€“ yn ei รดl ar daith gyda stand-yp aruthrol o angerddol a blaengar ar gyfer yr oes yma.

Mae Kumar yn 40 oed. Mae ei feddwl yn torri. Mae ei gorff yn waeth. Gallwch ddisgwyl angst mawr ac anesmwythyd gwleidyddol gan foi mwyaf digywilydd y byd comedi.