Odyssey

See dates and times  

Un o grwpiau soul / disgo mwyaf llwyddiannus eu cyfnod!

Daeth oes aur y grŵp lleisiol nodedig, Odyssey i benllanw yn y 1980au cynnar pan ddaethant i frig y siartiau gydag “Use It Up And Wear It Out”, gan sicrhau lle sawl gwaith wedyn yn y Deg Uchaf ym Mhrydain a ledled y byd.

Mae Steven Collazo yn parhau â gwaddol y teulu ac yn mynd â’i siwrnai, neu ei Odyssey, ymlaen ac ymhellach fel brand gydag amrywiaeth o gantorion talentog.

Mae’r daith yn parhau i’r 21ain ganrif ond hefyd yn cadw’n driw i’r sain glasurol wnaeth ODYSSEY yn enwog.


O'u halbwm cyntaf ddaeth eu sengl gyntaf i'r amlwg - “Native New Yorker”, llwyddiant rhyngwladol yn hwyr yn 1977. Yn ogystal, roedd mab hynaf Lillian, Steven Collazo, wedi dod yn rhan o Odyssey tu ôl i'r llenni, gan recordio fel lleisydd cefndir, cerddor sesiwn teithiol a chyfarwyddwr cerdd ar gyfer eu perfformiadau byw a'u teithiau. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, creodd y grŵp eu halbwm Hang Together. Roedd yn cynnwys Use It Up And Wear It Out, a saethodd i’r deg uchaf, ac wedyn If You’re Looking For A Way Out, Inside Out, a chlasur Lamont Dozier Going Back To My Roots, ymhlith eraill.

Gan berfformio ledled y DU, Ewrop a’r Dwyrain Canol drwy gydol yr 80au ac i mewn i’r 90au, parhaodd y siwrnai. Yn 1994, symudodd Steven i fod yn flaenydd y grŵp ar y cyd, a chynhyrchu fersiynau newydd o glasuron yr Odyssey ac ymddangos gyda Lillian ar y teledu, gan fynd ar daith o amgylch arenâu, gwestai gorau, clybiau, cyrchfannau gwyliau mawr a gwyliau ledled y DU ac Ewrop.

Bu farw sylfaenydd a llais cyntaf Odyssey, Lillian Lopez-Collazo Jackson, o ganser ar Fedi 4ydd, 2012. Bu farw Louise Lopez o achosion naturiol ar Ionawr 28ain, 2015.