Parti Cloi'r Eisteddfod

See dates and times  

Wedi dwy flynedd o baratoi ac wythnos yn y ‘Steddfod, bydd pawb yn haeddu parti mawr i gloi'r Ŵyl.

Yn agor y noson bydd y band dawnus Blodau Papur efo'r prif leisydd Alys Williams a band llawn o sêr - Osian a Branwen Williams, Dafydd Huws ac Aled Huws.

Bydd edrych mlaen mawr hefyd at berfformiad Marc Roberts (sylfaenydd "Catatonia" gynt) gyda'i fand MR.

Mae'n prysur ddod yn draddodiad fod y band roc-werin Celtaidd Bob Delyn a'r Ebillion yn cloi'r Eisteddfod, fydd eleni ddim gwahanol. Uchafbwynt teilwng i'n gŵyl genedlaethol.