Paul Smith - Happy

See dates and times  

Gefnogwyr comedi ledled y byd – dyma’r sioe i chi!

Mae Paul Smith ar grwydr unwaith eto gyda'i daith newydd sbon, HAPPY, a dyma sioe fwyaf, a mwyaf beiddgar, ei yrfa.

Yn dilyn rhediadau werthodd bob tocyn a llwyddiant feiral ledled y byd, mae HAPPY yn mynd â gwaith nodedig Paul, ei sylwadau miniog, a'i straeon gwir sy'n gwneud i chi chwerthin yn uchel, i lefel gwbl newydd. Dyma gomedi stand-yp ar ei orau: cyflym, di-ofn, a di-baid o ddoniol.

Yn llawn rhyngweithio gwallgof gyda'r gynulleidfa a straeon yn syth o fywyd go iawn, mae HAPPY yn sioe am ddod o hyd i lawenydd yn yr anhrefn, y chwerthin yn y pethau bob dydd, a chomedi ym mhopeth. Byddwch yn barod am chwerthin nes bydd eich ochrau’n brifo o'r funud gyntaf i'r olaf.

Dyma daith fwyaf erioed Paul Smith ac mae’n teithio i’r DU, Iwerddon, Ewrop, Gogledd America, Awstralia a Seland Newydd a bydd y tocynnau'n mynd yn gyflym.

Os ydych chi'n hoffi comedi amrwd, real ac eithriadol ddoniol…

mae HAPPY yn sioe na ddylech chi fyth ei cholli.



Nodyn gan Glwb Comedi Hot Water

Drwy brynu tocynnau, rydych chi'n cytuno i gael eich llun wedi ei dynnu a'ch ffilmio fel rhan o'r gynulleidfa. Rydym yn recordio'r rhan fwyaf o'n sioeau ac yn cadw'r hawl i ddefnyddio lluniau a recordiwyd yn ôl ein disgresiwn, gan gynnwys eu cyhoeddi ar-lein ac ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Cyfrifoldeb prynwr y tocyn yw sicrhau bod pob aelod o'u grŵp yn ymwybodol o'r amodau hyn ac yn cytuno â nhw. Os nad ydych chi'n cytuno, peidiwch â pharhau â phrynu'ch tocyn.

Am yr holl delerau ac amodau perthnasol eraill gan yr hyrwyddwr, ewch i www.hotwatercomedy.co.uk/terms-conditions