Mae un o actorion enwocaf Cymru, enillydd Gwobr Emmy Matthew Rhys, yn dychwelyd i lwyfan Cymru am y tro cyntaf ers 22 mlynedd yn y ddrama un-dyn glodwiw hon am y seren ryngwladol Richard Burton. Wediโi chyfarwyddo gan enillydd Gwobr Tony Bartlett Sher ac wediโi hysgrifennu gan Mark Jenkins, mae Playing Burton yn cynnig cipolwg treiddgar ar fywyd yr actor, oโi ddechreuadau tlawd yn Ne Cymru iโw esgyniad fel un o berfformwyr mwyaf ei genhedlaeth. Gyda hiwmor, didwylledd a gonestrwydd, maeโr ddramaโn archwilio perthynas dymhestlog Burton ag Elizabeth Taylor, ei frwydr gyhoeddus yn erbyn alcoholiaeth, aโr ymdrech i gydbwyso enwogrwydd, uchelgais a hunaniaeth.