RYDYN NI’N RECRIWTIO!
Yn cael ei rheoli bellach gan Theatr Clwyd, rydym eisiau cynyddu ein tîm yn Neuadd William Aston.
Dewch i siarad â’r tîm a chlywed mwy am y swyddi gwag yn ein diwrnod recriwtio agored ar 13eg Hydref o 12pm tan 4pm.
Isod mae rhagor o wybodaeth am y swyddi rydym yn recriwtio ar eu cyfer.
Darllenwch y manylion os gwelwch yn dda ac wedyn, os oes gennych ddiddordeb, cofrestrwch gan ddefnyddio'r ddolen isod.
Os oes gennych gwestiynau pellach e-bostiwch people@theatrclwyd.com
Am ba swyddi ydyn ni'n chwilio?
Cynorthwy-ydd Y Lleoliad
O £9.71 yr awr
Mae Cynorthwy-ydd y Lleoliad yn gweithio i gefnogi’r tîm gweithredol i redeg yr ardaloedd Bariau, Nwyddau a Thocynnau yn effeithiol fel gweithrediad rhagweithiol sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n sicrhau’r budd gorau o wasanaeth, cyflwyniad, proffidioldeb a datblygiad parhaus bar y theatr, a’r gwasanaeth arlwyo a manwerthu.
Goruchwylydd Y Lleoliad
O £10.84 yr awr
O dan gyfarwyddyd Rheolwr Gweithrediadau’r Lleoliad, ysgwyddo cyfrifoldeb gweithredol am flaen y tŷ, gan sicrhau gwasanaeth sy’n gyson ddiogel, yn effeithlon ac o safon uchel i gynulleidfaoedd, ymwelwyr a staff.
Technegydd Y Lleoliad
O £10.84 yr awr
Gweithio fel rhan o'r tîm technegol ac, o dan oruchwyliaeth Rheolwr Technegol y Lleoliad, darparu gwasanaeth o'r safon uchaf bosibl i bob cynhyrchiad sy'n ymweld.
Beth fydd yn digwydd yn ystod y Diwrnod Recriwtio?
Rydym eisiau i’r broses fod mor syml â phosib gan fod gennym ni lawer o swydd i’w llenwi!
- Cofrestrwch ar gyfer y diwrnod gan ddefnyddio’r ddolen isod.
- Rhwng nawr a'r Diwrnod Agored, diweddarwch eich CV a dewch â dau gopi ohono wedi’u hargraffu gyda chi ar y diwrnod. Dewch â’ch tystiolaeth o hawl i weithio yn y DU hefyd (Pasbort neu Dystysgrif Geni sydd orau).
- Pan fyddwch yn cyrraedd y lleoliad byddwch yn cael eich cyfarch gan un o'n tîm. Maen nhw wrth law i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi cyn eich cyfweliad.
- Pan fydd un o'n paneli cyfweld yn rhydd, byddwch yn cael cyfweliad byr sy'n rhoi cyfle i ni ddod i wybod mwy amdanoch chi.
- Byddwn yn gadael i bawb wybod y canlyniad y diwrnod canlynol (Hydref 14eg).
Yn olaf, os oes gennych chi ddiddordeb mewn swydd wag ond yn methu dod i’r diwrnod agored yma, anfonwch e-bost atom ar people@theatrclwyd.com