Rhod Gilbert & The Giant Grapefruit 2025

See dates and times  

Pan mae bywyd yn troi’n sur i Rhod...

Yn ei sioe ddiwethaf, The Book of John, roedd Rhod yn delio â dipyn o surni yn ei fywyd, a boi gwirion o'r enw John. Ychydig a wyddai bod pethau ar fin troi’n fwy sur byth... Ond dydi Rhod ddim yn chwerw; mae'n bownsio'n ôl ac yn teimlo'n hynod o fywiog.

Yn ddoniol o dywyll, yn angerddol ac yn llawer rhy bersonol, dyma Gilbert ar ei orau, yn gwasgu pob diferyn olaf allan o brofiadau diweddaraf ei fywyd ... gydag ychydig o help gan hen elyn.