Russell Kane: HyperActive

See dates and times  

Mae’r corwynt o ddigrifwr, cyflwynydd, actor ac awdur, Russell Kane, un sy’n enwog am dorri sawl FitBit, ar daith unwaith eto, ac yn rhoi’r byd ar dân gyda’i rysáit unigryw o ffraethineb miniog a “storming physical comedy” (Mail on Sunday).

Mae’r daith newydd sbon yma ar gyfer 2024 a 2025 yn cynnwys rhybudd diogelwch: gwisgwch ddillad isaf cadarn – fe fyddan’ nhw’n siŵr o fod wedi’u difetha. Mae Russell yn llawn egni a bwrlwm ac yn hynod fywiog!