Dyma’r comedïwr a roddodd gawod o arian parod i lywydd FIFA, Sepp Blater, a gyflwynodd ei P45 i'r Prif Weinidog, Theresa May, ac a greodd gyfres gomedi boblogaidd y BBC, Lee Nelson’s Well Good Show.
Mae Simon bellach yn un o'r comedïwyr stand-yp mwyaf cyffrous yn y byd i'w weld yn fyw. Roedd ei daith ddiwethaf, ‘Screwed Up’, yn llwyddiant ysgubol. Wedi'i hymestyn dair gwaith, fe redodd am 170 o ddyddiadau ledled y byd, a’r penllanw oedd tair noson wedi gwerthu allan yn yr Hammersmith Apollo yn Llundain.
‘Unleashed’ yw sioe newydd hynod ddoniol Simon. Yn llawn jôcs gwallgof a gwaith torfol trydanol, mae Simon yn bwrw ei lach ar nofwyr gwyllt, siopau vapes, Greta Thunberg, crefydd a ffrindiau ei wraig, Claire a Carl. Ymunwch â Simon am noson eithriadol ddoniol ar ei daith fwyaf erioed.
Adolygiadau
- A masterclass of stand-up at its very best.EdFringe Review




