Mae Simon yn awdur ac yn gyflwynydd teledu, ac yn un o deithwyr mwyaf anturus y byd. Mae ei frand unigryw o greu ffilmiau dogfen yn cyfuno teithio ac antur gyda materion cyfoes, hanes, bywyd gwyllt, diwylliant a chadwraeth.
Mae ei deithiau wedi mynd ag ef i fwy na 130 o wledydd, ar draws sawl jyngl, anialwch, mynyddoedd a chefnforoedd, ac i rai o ranbarthau harddaf, a mwyaf peryglus ac anghysbell, y byd.
Ar ei daith newydd yn y DU bydd Simon yn cynnig straeon, sawl syrpreis, gwefr, meddyliau dyfnach a chwerthin oโr galon. Mae eisiau gwthio ac annog ei gynulleidfaoedd i fentro allan o'u parth cysurus, cymryd ychydig o risgiau mewn bywyd, a chofleidio'r awyr agored gwych a'r byd ehangach.
Gyda ffilmio y tu รดl iโr llenni a delweddau syfrdanol, bydd Simon yn ysbrydoli ac yn atgoffa cynulleidfaoedd bod angen mwy o siwrneiau yn ein bywydau ni i gyd, a digon o brofiadau gwyllt.
Tocynnau ar gael dydd Gwener yma o 10am!