Sins

See dates and times  

Mae SINS yn brofiad byw tywyll lle mae theatr, her seicolegol a grym y gynulleidfa’n cydgyfarfod.

Yng nghanol y cyfan mae ffigur sy'n cael ei adnabod fel Yr Archwiliwr yn unig.Mae saith unigolyn wedi cael eu cipio a'u dwyn o'i flaen – pob un yn cynrychioli un o'r Saith Pechod Marwol:

Chwant. Glythni. Diogi. Cenfigen. Digofaint. Balchder. Trachwant.

Fesul un, mae eu straeon yn cael eu datgelu ar y llwyfan, gan ddangos sut gall dewisiadau cyffredin droelli'n dawel i fod yn rhywbeth llawer mwy dinistriol. Ond nid dim ond sioe i chi ei gwylio ydi hon. Drwy gydol y profiad, mae’r gynulleidfa’n cael ei denu i mewn i'r broses drwy heriau deallus, penderfyniadau sydd â therfyn amser, a threialon barn sydd wedi'u plethu'n uniongyrchol yn rhan o'r naratif. Gan ddefnyddio eich dyfais symudol eich hun, byddwch yn cymryd rhan mewn dewisiadau real ac yn rhoi eich barn wrth i'r stori ddatblygu.
A bydd pob dewis rydych chi’n ei wneud yn newid beth sy'n digwydd nesaf.

Ni fydd neb yn gweld beth rydych chi'n ei ddewis.
Ni fydd neb yn gwybod sut gwnaethoch chi bleidleisio.
Ond mae'r canlyniadau'n digwydd ar unwaith.

Nid rhyw fath o arswyd sy'n dibynnu ar eiliadau o ddychryn sydyn ydi hwn. Mae'n rhywbeth llawer mwy anesmwyth. Oherwydd nid Yr Archwiliwr sy'n creu'r gwir densiwn.
Y gynulleidfa sy'n ei greu.

Mae pob perfformiad yn dod i ben mewn ffordd wahanol. Bydd rhai o'r carcharorion yn goroesi. Ond nid eraill.
A phan fydd y noson wedi dod i ben, nid y cwestiwn mwyaf annumynol fydd beth wnaeth Yr Archwiliwr.

Y cwestiwn fydd hwn:
pan roddwyd grym i chi – yn ddistaw, yn ddienw... beth wnaethoch chi ddewis ei wneud gydag o?