Stewart Lee vs The Man-Wulf

See dates and times  

Yn y sioe newydd sbon yma, mae Lee yn rhannu ei lwyfan gyda digrifwr blaidd-ddyn hyderus o goedwigoedd tywyll yr isymwybod sy'n casáu dynoliaeth. Mae'r Man-Wulf yn gosod her gomedi ffyrnig i Lee, sy'n amherthnasol yn ddiwylliannol ac yn wan yn gorfforol. Oes posib tawelu'r bwystfil y tu mewn i ni i gyd gyda bwled arian arddull stand-yp Lee sydd wedi ennill bri mawr gan y beirniaid?

Mae Stewart Lee ("The world's greatest living stand-up comedian" The Times), mewn perygl o gael ei adael ar ôl. Mae'n agosáu at drigain oed gyda chyflyrau iechyd heriol, mae ei broffil teledu wedi lleihau, ac mae ei arddull stand-yp a enillodd wobr BAFTA iddo unwaith yn ymddangos yn hen ffasiwn. Ond fedr Lee ryddhau ei Man-Wulf mewnol i osod ei hun ochr yn ochr â chewri’r byd comedi fel Dave Chappelle, Ricky Gervais a Jordan Peterson ar flaen y gad yn gwneud i bobl chwerthin lond eu bol a llenwi stadiymau?