Ymunwch â ni am noson ryfeddach na ffuglen o droseddau real gyda'r cyn-ddarlithydd fforensig, Jennifer Rees, sy'n edrych ar achosion mwyaf syfrdanol ac anghredadwy y byd.
Yn y sioe newydd yma, mae Jennifer yn edrych ar straeon, fel stori’r llofrudd cyfresol a gafodd waith yn y gyfraith tra oedd ar ffo - ac a oedd, yn y diwedd, yn ei erlid ei hun; y llofrudd ar ffurf clown benywaidd yn cario balŵns; llofruddion cyfresol ar raglenni gemau - sut gwnaeth eu hymddangosiad arwain at eu hadnabod, a llawer mwy o hanesion.
Golwg ryfeddol ar y straeon trosedd rhyfeddaf, ond gwir - perffaith ar gyfer pawb sy’n hoff o raglenni dogfen a phodlediadau troseddau real.