Efallai eich bod chi'n ei hadnabod hi fel Bake Off Sue, Taskmaster Sue, Just A Minute Sue, neu'r Sue sy'n rhoi cenfigen teithio i chi - ond mae'r stand-yp Sue yn llawn syrpreisys.
Yn y sioe yma am stigma, cywilydd a chamddealltwriaeth, mae Sue yn rhannu straeon eithriadol ddoniol o'r tu ôl i'r camerâu teledu.
Beth ydi'r canlyniadau pan fyddwch chi’n colli rheolaeth ar eich chwarren bitẅidol ar deledu byw? Sut mae argyhoeddi'r cyhoedd na wnaethoch chi syrthio ar y darn yna o’r hwfer mewn gwirionedd? A phan mae lluniau personol iawn ohonoch chi'n cael eu rhannu ar draws y rhyngrwyd ym mhobman, sut mae troi’r cywilydd yn urddas a llawenydd?
Adolygiadau
- ExcellentThe Telegraph
- Heart-warmingThe Times
- Intimate and rawMail on Sunday


