Yr unig sioe deyrnged Americanaidd sy'n dathlu cerddoriaeth The Four Tops ac artistiaid Motown chwedlonol eraill sy'n teithio’r DU.
Gan dalu teyrnged i'r cewri, mae'r grŵp lleisiol Soul Satisfaction yn dod â hud Motown yn ôl i'r llwyfan mewn cyngerdd byw gyda lleisiau pwerus, harmonïau godidog a threfniadau dawnsio step syfrdanol.
Byddwch yn cael eich tywys ar siwrnai drwy holl ganeuon llwyddiannus The Four Tops, Reach Out, Baby I Need Your Loving, Walk Away Renee, Same Old Song, Loco in Acapulco, Standing In the Shadow, Bernadette a hefyd clasuron eiconig eraill o'r oes aur gan gynnwys caneuon gan The Temptations, Smokey Robinson and the Miracles, Marvin Gaye, Ben E King a llawer mwy o gewri Motown a soul.
Dywedodd un o’r cyfansoddwyr caneuon Motown mwyaf chwedlonol, Eddie Holland, o dîm Holland-Dozier-Holland, sy'n gyfrifol am holl ganeuon mwyaf llwyddiannus The Four Tops yn ogystal â chlasuron Motown eraill: "Soul Satisfaction is one of the most professional and tightest vocal groups that I have seen - and I have seen many groups in my time!"




