Y James Bond Concert Spectacular gan Q The Music yw’r deyrnged fwyaf clodwiw yn y byd i gerddoriaeth James Bond.
Wedi ffurfio yn 2004 fel teyrnged benodol gyntaf y byd i gerddoriaeth 007, maent wedi dod yn adnabyddus am eu perfformiadau emosiynol a chyffrous llawn egni, yn gymysg â dawn gerddorol wych. Mae pob clwb o gefnogwyr Bond ledled y byd yn eu cydnabod fel y perfformiadau gorau o'r caneuon ers y rhai gwreiddiol.
Mae’r sioe yn cynnwys holl ganeuon Bond fel Goldfinger, Diamonds Are Forever, Live and Let Die a Nobody Does It Better yn cael eu perfformio gan gerddorion o brif gerddorfeydd, sesiynau a sioeau’r DU. Bydd Caroline Bliss, a fu’n chwarae rhan Moneypenny yn The Living Daylights a License To Kill, yn eich tywys chi drwy’r cyngerdd fel arweinydd, gan rannu ambell stori am ei chyfnod yn gweithio ar y gyfres chwedlonol yma.
Oriel
Adolygiadau
- They do a phenomenal jobBond Composer, David Arnold
- They did John Barry proudGeorge Lazenby
- It’s hard to imagine this music being served better. Simply stunning.The Times