The Manfreds

See dates and times  

Mae The Manfreds yn cael eu hystyried fel un o’r bandiau gorau ac uchaf eu parch o’r 1960au. Nid caneuon ‘pop’ yn unig oedd eu caneuon eiconig niferus, roedd llawer wedi’u seilio ar R&B gydag islif o jazz - cyfuniad anarferol iawn ond llwyddiannus o arddull chwarae a sylwedd.

O ganlyniad, mae ansawdd oesol i’w recordiau a rhyw 60 mlynedd yn ddiweddarach, bydd The Manfreds, gyda’r prif leisydd gwreiddiol, Paul Jones, yn perfformio llawer o’u caneuon eiconig, gan gynnwys ‘Do Wah Diddy Diddy’, un o’r caneuon mwyaf poblogaidd a chyfarwydd o’r 60au, a’r un sy’n plesio’r gynulleidfa fwyaf o hyd yn eu cyngherddau, ynghyd â chymysgedd o ganeuon Jazz a Blŵs amrywiol a thraciau o’u halbymau unigol.

Yn ymuno â Paul Jones, gyda’i sain harmonica unigryw, bydd Tom McGuinness ar y gitâr, Pete Riley ar y drymiau, Mike Gorman ar yr allweddellau, Marcus Cliffe ar y bas, a Simon Currie ar y sacsoffon/ffliwt.